At:                            Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Gan:                              Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Dyddiad y cyfarfod:   Dydd Mercher 11 Rhagfyr 2014

 

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ionawr – Ebrill 2014

Diben

1. Mae’r papur hwn yn gwahodd yr Aelodau i nodi amserlen y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sydd wedi’i atodi fel Atodiad A.

Cefndir

2. Yn Atodiad A, ceir copi o amserlen y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol hyd at doriad y Pasg.

 

3. Fe’i cyhoeddwyd i gynorthwyo Aelodau’r Cynulliad ac unrhyw aelodau o’r cyhoedd a hoffai wybod am flaenraglen waith y Pwyllgor. Bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi dogfen o’r fath yn gyson.

 

4. Gall yr amserlen newid a gellir ei diwygio yn ôl disgresiwn y Pwyllgor pan fydd busnes perthnasol yn codi.

Argymhelliad

5. Gwahoddir y Pwyllgor i nodi’r rhaglen waith yn Atodiad A.

 

 


DYDD IAU 16 IONAWR 2014

 

Bore (cyfarfod preifat)

 

Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru

Sesiwn ragarweiniol gyda’r cynghorydd arbenigol, Dr Alex Faulkner

 

Blaenraglen waith y Pwyllgor: cynllun strategol ar gyfer gweddill y Cynulliad hwn

Trafodaeth Pwyllgor

 

 

Ymchwiliad i waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Ystyriaeth o’r prif faterion

 

DYDD MERCHER 22 IONAWR 2014

 

Bore yn unig

 

Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru

Sesiwn dystiolaeth lafar

 

 

DYDD IAU 30 IONAWR 2014

 

Bore a phrynhawn

 

Bore: Rhaglen datblygu proffesiynol: Craffu ariannol (preifat)

Modiwl 2: Craffu ariannol o fewn ymchwiliadau pwyllgor

 

Prynhawn: Sesiwn dystiolaeth cyffredinol gyda’r Prif Swyddog Nyrsio (I’W GADARNHAU yn ddibynnol ar argaeledd y Prif Swyddog Nyrsio)

Bydd y Pwyllgor yn parhau â’i raglen o graffu ar brif weithwyr iechyd proffesiynol.

 

DYDD MERCHER 5 CHWEFROR 2014

 

Bore yn unig

 

Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru

Sesiwn dystiolaeth lafar

 

 

 

 

DYDD IAU 13 CHWEFROR 2014

 

Bore a phrynhawn

 

Ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig

Sesiwn dystiolaeth lafar

Gweithgaredd cyswllt allanol (I’W GADARNHAU)

 

DYDD MERCHER 19 CHWEFROR 2014

Bore yn unig

Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru

Sesiwn dystiolaeth lafar

 

 

Dydd Llun 24 Chwefror – Dydd Sul 2 Mawrth 2014: Toriad hanner tymor

 

 

 

DYDD IAU 6 MAWRTH 2014

 

Bore a phrynhawn

 

Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru

Sesiwn dystiolaeth lafar

 

DYDD MERCHER 12 MAWRTH 2014

 

Bore yn unig

Busnes I’W GADARNHAU

 

DYDD IAU 20 MAWRTH 2014

Bore a phrynhawn

 

Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru

Sesiwn dystiolaeth lafar

 

 

 

 

DYDD MERCHER 26 MAWRTH 2014

 

Bore yn unig

 

Ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig

Sesiwn dystiolaeth lafar

 

DYDD IAU 3 EBRILL 2014

Bore a phrynhawn

 

Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru

Sesiwn graffu cyffredinol gyda’r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol (I’W GADARNHAU yn ddibynnol ar argaeledd y Gweinidog)

 

Busnes y prynhawn I’W GADARNHAU

 

 

Dydd Llun 7 Ebrill – dydd Sul 27 Ebrill 2014: Toriad y Pasg